Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
06 Tachwedd 2023
SL(6)394 – Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2023
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993 (“Rheoliadau 1993”).
Mae Rheoliadau 1993 yn nodi o dan ba amgylchiadau y gellir newid rhestr brisio. Mae rheoliad 14 o’r Rheoliadau hynny yn pennu’r diwrnod y mae newid yn cael effaith ohono.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r diwrnod y mae newid yn cael effaith ohono pan fydd y rhestr yn cael ei newid oherwydd cynnydd materol yng ngwerth eiddo, a phan ddylid trin annedd fel dwy annedd neu ragor yn unol â Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) 1992. O dan y ddau amgylchiad mae'r Rheoliadau hyn yn pennu’r diwrnod fel y diwrnod y cofnodir y newid yn y rhestr.
Mae’r Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Rheoliadau hyn, ym mharagraff 4.1, yn nodi bod y diwygiadau hyn:
“...amddiffyn trethdalwyr rhag ôl-ddyledion treth gyngor sy'n deillio o oedi gweinyddol yn y broses o newid bandiau prisio”.
Rhiant-Ddeddf: Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993
Fe’u gwnaed ar: 11 Hydref 2023
Fe’u gosodwyd ar: 13 Hydref 2023
Yn dod i rym ar: 08 Tachwedd 2023
Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
06 Tachwedd 2023
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015, yn benodol:
(i)
diwygio Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 drwy
ychwanegu “llety digartrefedd dros dro y sector
preifat” (a ddiffinnir yn y Rheoliadau hyn) at y rhestr o
denantiaethau a thrwyddedau na fyddant byth yn cael troi'n
gontractau meddiannaeth;
(ii) diwygio'r diffiniad o “llety Gwely a Brecwast” yn erthygl 2 o Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015.
Yr effaith y bwriedir i’r ddeddfwriaeth ei chael yw sicrhau bod pobl sy'n ddigartref ac y mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ddarparu cymorth a llety iddynt, yn parhau i gael eu lletya mewn llety gwely a brecwast heb i gontract meddiannaeth godi.
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar:
Yn dod i rym ar: 30 Tachwedd 202